Archebu'n Bersonnol

Archebu Ar-lein

Swyddfa Docynnau:
0845 330 3565

English

 

Sut i Archebu

Archebu'n Bersonnol 

I archebu'n bersonol ar gyfer unrhyw berfformiad, cysylltwch â'n Swyddfa Docynnau, sydd ar agor Llun i Sadwrn 10.00am i 8.00pm. Mae'r Theatr ar gau ar ôl 6.00pm ar nos Lun, oni fo perfformiad. Edrychwch yn y Dyddiadur am fanylion. Ar ddydd Sul, mae'r Swyddfa Docynnau yn agor awr cyn i'r perfformiadau gychwyn.

Naill ai galwch heibio neu ffoniwch ar 0845 330 3565 (cyfraddau galw lleol, ble bynnag rydych yn ffonio). Weithiau mae ein llinellau ffôn yn brysur iawn. Os ydych yn cael trafferth mynd trwodd, nodwch eich gofynion ar bapur a'i bostio i'r Swyddfa Docynnau, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA gydag amlen stampiedig a siec (yn daladwy i Clwyd Theatr Cymru) neu fanylion cerdyn credyd. Rhaid talu am docynnau a neilltuir, heb dalu amdanynt, o fewn 3 diwrnod. Os ydych yn trefnu o fewn 3 diwrnod i'r perfformiad, holwch y Swyddfa Docynnau ynglŷn â'r amser talu olaf. Fel arall, medrwch ffacsio eich gofynion i'r Wyddgrug (01352) 701529.