Grwpiau: Mae cyfraddau arbennig ar gael ar gyfer llawer o berfformiadau i grwpiau o 10 neu fwy – holwch y Swyddfa Docynnau am fanylion pellach. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig cymhorthdal teithio i grwpiau o Ogledd Cymru. Ffoniwch Bangor (01248) 353248.
Gostyngiadau: Mae gostyngiad o £2.00 ar holl docynnau theatr cyfradd-lawn gwerth dros £11.00 i unrhyw un sy’n hawlio budd-dal o unrhyw ddisgrifiad, yn amodol ar ddilysiad. DDIM AR DDYDD SADWRN
Tocynnau Arbennig i Fyfyrwyr: Mae cyfradd Grŵp Myfyrwyr o £9.00 ar gael ar gyfer rhai perfformiadau i grwpiau o fyfyrwyr, 5 neu fwy, mewn addysg lawn-amser.
Plant: Caiff plant dan dair oed fynediad am ddim i rai perfformiadau a sgriniadau.
Amodau Gwerthu: Ni ad-delir arian. Ni chaniateir mynediad i rai sy'n hwyr yn cyrraedd nes bydd egwyl addas yn y perfformiad.
