English | Cymraeg

DILYNWCH NI:

Loading Twitter Feed...

Gwybodaeth Dechnegol

Clwyd Theatr Cymru yw prif gorff cynhyrchu drama Cymru, a adeiladwyd yn wreiddiol fel Canolan Gelfyddydau Ranbarthol.

Mae’n gartref i gwmni cynhyrchu uchel ei barch, sydd hefyd yn cyflwyno llawer o'i waith ar daith trwy Gymru a gweddill y DG. Mae'r cwmni'n cynhyrchu'n bennaf yn Saesneg, ond hefyd yn y Gymraeg. Mae adran Theatr Pobl Ifanc sydd wedi ei hintegreiddio’n llawn, sy'n defnyddio'r un perfformwyr, technegwyr a staff creadigol i gyflawni’r un gwerthoedd cynhyrchu uchel a'r cynnyrch prif ffrwd. Mae'r theatr hefyd yn llwyfannu amrywiaeth o ddrama, dawns, a cherddoriaeth deithiol a Gŵyl Gymunedol yn yr Haf. Mae oddeutu 900 perfformiad cyhoeddus bob blwyddyn.

Crëwyd trwy weledigaeth yr hen Gyngor Sir y Fflint a'i Brif Weithredwr Haydn Rees, ac agorwyd Theatr Clwyd ym 1976. Wedi ei lleoli filltir o ganol tref Yr Wyddgrug yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, mae'r adeilad yn ymgorffori pum lleoliad perfformio: Theatr Anthony Hopkins (580 sedd), Theatr Emlyn Williams (250 sedd), Stiwdio 2 (120), Ystafell amlswyddogaethol Clwyd (hyd at 300) a'r Sinema (120). Hefyd, mae siop lyfrau, bwyty a thair oriel gelf.Cyfarwyddwyr Artistig yn y gorffennol oedd George Roman, Toby Robertson, a Helena Kaut-Howson.

Derbyniodd Terry Hands swydd Cyfarwyddwr ar 2 Mai 1997.Newidiodd yr enw i Glwyd Theatr Cymru ym 1998 i adlewyrchu hunaniaeth genedlaethol a chylch gorchwyl newydd ar ôl y newidiadau yn sgil Ad-drefnu Llywodraeth Leol yng Nghymru. Ym 1998, enillodd y theatr wobr Theatr y Flwyddyn Barclays/TMA ac ym 1999 fe'i dynodwyd yn Gwmni Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Technical information about the venues within Clwyd Theatr Cymru is being added to the site.  You can get extra information by contacting:-

Technical Manager Pat Nelder 01352 701581 pat.nelder@clwyd-theatr-cymru.co.uk
Head of lighting and sound Kevin Heyes 01352 701896 kevin.heyes@clwyd-theatr-cymru.co.uk
Head of Stage
Jayson Noble 01352 701874 jayson.noble@clwyd-theatr-cymru.co.uk