Gwanwyn Festival
Loading Map...
Loading Twitter Feed...
Ar y ffordd
Mae Clwyd Theatr Cymru yn adeilad mawr brics coch ar ben bryn yn edrych i lawr ar dref Yr Wyddgrug. Mae arwyddion mwynderau hamdden brown a gwyn amlwg yn arwain ar bob dynesfa, ac felly mae'n hawdd iawn cael hyd i ni. Mae ar yr un safle â Chanolfan Ddinesig Sirol Sir y Fflint, sydd hefyd ag arwyddion da.
O arfordir Gogledd Cymru, ewch ar yr A55 tuag at Gaer, cymryd yr allanfa sydd wedi ei nodi Y Fflint a throi i'r dde tuag at Yr Wyddgrug. Ewch trwy bentrefi Northop a Sychdyn, ac edrych am dro i'r dde, gydag arwydd clir, i'r theatr.
O Gaer neu Ogledd-ddwyrain Lloegr, dilynwch arwyddion i Gogledd Cymru a Chonwy. O'r A55, ewch i'r chwith ar yr A494 ar gyfer Yr Wyddgrug. Wrth i chi ddynesu at y dref, mae arwyddion clir i'r theatr ar y dde.
O gyfeiriadau eraill, ewch trwy’r Wyddgrug a chymryd yr A494, ffordd Y Fferi Isaf. Mae arwyddion i'r theatr ar y chwith wedi i chi adael y dref.
Parcio
Mae maes parcio mawr dan ddaear yn nhu blaen yr adeilad, gyda mynediad trwy dwnnel i dderbynfa’r theatr. Peidiwch ag achosi rhwystr i fannau parcio i bobl anabl a mynediad i'r gwasanaethau argyfwng wrth y drysau ffrynt os gwelwch yn dda.
Bws
Mae man aros bysus y tu allan i'r theatr, ar y llwybrau o'r Wyddgrug i'r Fflint a Chaer. Cysylltwch gyda Gwasanaethau Bws ‘Arriva’ am yr amserlen ddiweddaraf ar 01352 758657. Gweler hefyd y wybodaeth ar y wefan ynglyn â'r gwasanaeth bws 'Shuttle'.
Rheilffordd
Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw'r Fflint (5 milltir) a Chaer (11 milltir).
Archebwch ar 0845 330 3565 (cyfradd galwad leol o unrhyw le yn y DU) neu arlein gyda gwasanaeth dewis sedd eich hun, trwy safle ddiogel gyda chadarnhad o’ch archeb trwy ebost gyda manylion llawn ar gyfer eich cofnodion.
Mae Swyddfa Docynnau y theatr ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn 10.00yb i 8.00yh, ac ar Ddydd Sul, pan mae perfformiad, o 5.30yp i 8.00yh. Pan nad oes perfformiad ar y Dydd Sul, bydd y Swyddfa Docynnau a’r Theatr ar gau.
Dylid talu am docynnau sydd wedi eu cadw, mewn person neu dros y ffôn, o fewn 3 diwrnod.
Gellir cyfnewid Talebau Rhodd yn erbyn unrhyw gynhyrchiad.
Newid Tocynnau ac Ad-daliadau:
Gellir newid tocynnau am berfformiad arall 24awr cyn y perfformiad (ffi 50c y tocyn). Bydd hyn yn ôl ewyllys y rheolwr ac yn dibynnu ar argaeledd.
Ni chaniateir ad-daliad ar docynnau wedi eu prynnu.
Y Caffi
Dydd Llun - Dydd Sadwrn 11.00yb - 8.00yh
Prydau poeth ar gael 12.00yp - 2.30yp a 5.30yp - 7.30yh.
Cawl, byr-brydau a chacennau ar gael trwy'r dydd.
Perfformiadau Dydd Sul a Gwyl Banc yn unig:
agor 5.30yp - 8.00yh ar gyfer te, coffi a chacennau.
Mae'r Caffi yn cau am 5.00yp ar nosweithiau ffilm yn unig.
Archebwch fwrdd ar: 01352 701533
Bar
Bydd y Bar yn agor or awr cyn pob perfformiad ymlaen.
PARION PREIFAT A DIGWYDDIADAU CORFFORAETHOL
Os ydych yn ymweld ‚ a'r theatr fel rhan o grwp neu barti ac yn dymuno gwneud eich profiad ychydig yn fwy arbennig, pam ddim llogi ystafell breifat ar gyfer chi a'ch gwesteion, unai cyn neu wedi'r perfformiad' Mae gennym nifer helaeth o ystafelloedd ar gael ac fe ellir trefnu arlwyaeth a lluniaeth i gyfarfod eich anghenion.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Rheolwr y Theatr ar 01352 701555.
PRIODASAU A PHARTÏON
Mae Ystafell Clwyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal eich brecwast priodas neu ar gyfer parti pen-blwydd neu Nadolig. Gallwn ddarparu pob math o opsiynau arlwyo a dewis eang o winoedd a bwydydd da. Hefyd gallwn ddarparu offer a’ch helpu i wneud eich achlysur yn un o’r safon uchaf.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ‚ Rheolwr y Theatr ar 01352 701555
Yn gwerthu anrhegion gan gynllunwyr lleol, cardiau a llyfrau arbenigol gan gynnwys theatr, diddordeb Cymreig a barddoniaeth.
Mae Clwyd Theatr Cymru yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn trwy gyfrwng ramp wrth y brif fynedfa. Mae lle parcio i bobl anabl yn agos, gyda mannau penodol wrth du blaen yr adeilad. Mae staff bob amser yn falch o gynnig help pan fo angen. Hysbyswch y Swyddfa Docynnau o'ch gofynion wrth brynu eich tocynnau ac ewch i'r Dderbynfa pan fyddwch yn cyrraedd.
Mae lifft i bob llawr, gyda chyfleusterau toiled wedi eu dylunio gan arbenigwyr ar bob lefel. Mae mannau i gadeiriau olwyn a system dolen sain ar gael ym mhob man cyfarfod.
Mae unrhyw ddefnyddwyr anabl neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ein rhaglen fynediad, perfformiadau gyda chapsiynau neu berfformiadau gyda disgrifiad sain yn gymwys i dderbyn pris tocyn arbennig o £12.50 iddynt hwy eu hunain a chydymaith ar gyfer unrhyw sedd mewn unrhyw berfformiad mewn unrhyw fan cyfarfod.
Ar gyfer nifer cyfyngedig o berfformiadau yng Nghlwyd Theatr Cymru, efallai y bydd y pris mantais a hysbysebir yn is na £12.50 - mewn achosion o'r fath y pris is fydd yn berthnasol.
Darperir PERFFORMIADAU GYDA DISGRIFIAD ar gyfer y rhan fwyaf o gynyrchiadau Clwyd Theatr Cymru.
Mae copi o daflen Clwyd Theatr Cymru mewn print mawr a braille bellach ar gael. Mae copïau o'r daflen hefyd ar gael ar dâp sain.
PERFFORMIADAU CAPSIWN
Yn ystod Perfformiadau Capsiwn (gan STAGETEXT) bydd y geiriau'n ymddangos ar sgrin y tu blaen i'r llwyfan ar yr un pryd ag y mae'r actorion yn siarad, er mwyn i bobl gyda nam ar eu clyw ddeall yn llawn.
The Monster in the Hall - 18 April/Ebrill, 7.45pm
White Star of the North - 2 May/Mai, 7.45pm
Bruised - 23 May/Mai, 7.45pm
The Celtic Festival is a celebration of new writing from the Celtic nations, featuring three of the best new plays from Scotland, Northern Ireland and Wales.
Flagship theatre Companies - Citizens Theatre, Glasgow, The Lyric Theatre, Belfast and Clwyd Theatr Cymru - will perform under one roof in a new festival in Mold which will become an annual event.
The Monster in the Hall by David Greig, a comedy musical about a girl on the verge of a nervous breakdown. The play is performed with just 4 actor-musicians and the production style is stripped back to reveal storytelling fuelled simply by great writing, direction and striking performances.
White Star of the North by Rosemary Jenkinson. This is a new play to mark the most famous year in Belfast’s history, 1912 - the year of the Titanic and the Ulster Covenant, signed in the city in protest against the third home Rule Bill to establish a parliament in Dublin.
Bruised, a new play by Welsh playwright Matthew Trevannion, directed by Kate Wasserberg. Set in Pontypool, South Wales Bruised is a fierce, funny and beautiful play about family, courage and the legacy of violence.
* These plays contain strong language and sexual references *
Part of the Gwanwyn Festival, a month long national festival run by Age Cymru. Held across Wales throughout May, Gwanwyn celebrates creativity in older age and offers more opportunities for participation by older people in the arts.
To book your tickets contact the Box Office on 0845 330 3565 and quote: GWANWYN (tickets to be collected on evening)