Ar y ffordd: Mae Clwyd Theatr Cymru yn adeilad mawr brics coch ar ben bryn yn edrych i lawr ar dref Yr Wyddgrug. Mae arwyddion mwynderau hamdden brown a gwyn amlwg yn arwain ar bob dynesfa, ac felly mae'n hawdd iawn cael hyd i ni. Mae ar yr un safle â Chanolfan Ddinesig Sirol Sir y Fflint, sydd hefyd ag arwyddion da.
O arfordir Gogledd Cymru: ewch ar yr A55 tuag at Gaer, cymryd yr allanfa sydd wedi ei nodi Y Fflint a throi i'r dde tuag at Yr Wyddgrug. Ewch trwy bentrefi Northop a Sychdyn, ac edrych am dro i'r dde, gydag arwydd clir, i'r theatr.
O Gaer neu Ogledd-ddwyrain Lloegr: dilynwch arwyddion i Gogledd Cymru a Chonwy. O'r A55, ewch i'r chwith ar yr A494 ar gyfer Yr Wyddgrug. Wrth i chi ddynesu at y dref, mae arwyddion clir i'r theatr ar y dde.
O gyfeiriadau eraill, ewch trwy’r Wyddgrug a chymryd yr A494, ffordd Y Fferi Isaf. Mae arwyddion i'r theatr ar y chwith wedi i chi adael y dref.
Parcio: Mae maes parcio mawr dan ddaear yn nhu blaen yr adeilad, gyda mynediad trwy dwnnel i dderbynfa’r theatr. Peidiwch ag achosi rhwystr i fannau parcio i bobl anabl a mynediad i'r gwasanaethau argyfwng wrth y drysau ffrynt os gwelwch yn dda.
Bws: Mae man aros bysus y tu allan i'r theatr, ar y llwybrau o'r Wyddgrug i'r Fflint a Chaer. Cysylltwch gyda Gwasanaethau Bws ‘Arriva’ am yr amserlen ddiweddaraf ar 01352 758657. Gweler hefyd y wybodaeth ar y wefan ynglŷn â'r gwasanaeth bws 'Shuttle'.
Rheilffordd: Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw'r Fflint (5 milltir) a Chaer (11 milltir).
