E-Lyfrynnau

Archebu Ar-lein

Swyddfa Docynnau:
0845 330 3565

English

 

E-Lyfrynnau 

Lawrlwythwch fersiynau electronig o’n llyfryn chwarterol.

Mae fersiwn electronig o’n llyfryn chwarterol cyfredol ar gael drwy glicio yma, neu ar y cyswllt priodol ar waelod y dudalen. Mae’r llyfryn cyfredol ar frig y rhestr, ac mae’r llyfrynnau blaenorol ar gael hefyd.

ebrochurebutton

Bydd yn lawrlwytho mewn ryw 20 eiliad os oes gennych fand llydan, neu ryw 5 munud os ydych yn deialu i gysylltu â’r rhyngrwyd.

Mae’r llyfryn yn gopi electronig o’n deunydd wedi’i argraffu, ac mae modd troi’r tudalen ynddo a phopeth. Er mwyn sicrhau hyn, mae’r ffeil y byddwch yn ei lawrlwytho’n ffeil yn defnyddio’r rhaglen (.exe), y bydd rhai rhaglenni diogelwch yn eich rhybuddio yn ei chylch. Gallwch ganiatáu i’ch cyfrifiadur lawrlwytho a rhedeg y ffeil hon. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd ond yn gweithio ar gyfrifiaduron gyda Windows. Ceir fersiwn pdf isod a fydd yn gweithio ar gyfrifiaduron Apple.         

Rydym yn awgrymu eich bod yn:-

    • Clicio ar y dde ar y cyswllt ar waelod y dudalen
    • Dewis 'Save Target As...'

    • Yn y blwch 'Save As' sy’n agor, dewiswch 'Desktop' yn y safle 'Save In' ar y top, a nodwch yr enw sy’n addas i chi (hy llyfryn CTC) yn y safle ‘File Name’ ar y gwaelod

    • Cliciwch ‘Save’ yn y gwaelod; pan mae’r ffeil wedi lawrlwytho, byddwch yn gweld blwch 'Download Complete', gydag opsiwn 'Open', y gallwch ei dderbyn neu beidio, fel y dymunwch.  Waeth beth fydd eich penderfyniad, bydd eich ffeil ar eich sgrîn yn barod i’w hagor ar unrhyw adeg.              

      Gadewch i ni wybod beth ydych yn ei feddwl.