ROBIN HOOD AND THE BABES IN THE WOOD | 20 Tach 2009 i 23 Ion 2010
Dydd Gwener 20 Tachwedd – Dydd Sadwrn 23 Ionawr
Theatr Anthony Hopkins
Gan Peter Rowe
Cyfarwyddwr: Peter Rowe
Cynllunydd: Judith Croft
Cyfarwyddwr Cerddodol: Greg Palmer
Cynllunydd Goleuo: Nick Richings
Cynllunydd Sain: Kevin Heyes
Coreograppydd: Francesca Jaynes
Cast Yn Cynnwys: Justin Brett, Philippa Buxton, Tom Connor, Dan de Cruz, James Haggie, Ally Holmes, Nick Lashbrook, Daniel Lloyd, Michael O'Connor a Sioned Saunders.
Mae’r un tîm â’r criw a wnaeth sioeau Nadolig hynod lwyddiannus yn yr Wyddgrug yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf - Jack and the Beanstalk a Cinderella – The Panto With Soul – yn ei ôl eto!
Mae’r stori antur ryfeddol hon yn cofnodi ymgais Robin Hood i gael y gorau ar Siryf drwg Nottingham, gan ryddhau’r Babanod anffodus a’u Nani gythreulig, Nellie Nightnurse, a phriodi’r Forwyn Marion hardd. Y canlyniad yw fersiwn gerddorol gyflym a gwyllt o’r chwedl draddodiadol hon, a fydd yn diddanu’r teulu cyfan.
Bydd cast talentog o actorion / cerddorion yn cyflwyno mwy nag ugain o glasuron roc a soul, yn cynnwys The Hippy Hippy Shake, I Shot the Sheriff, Girls Just Want To Have Fun, Kiss, I Can’t Help Myself, Signed, Sealed, Delivered a llawer, llawer mwy. Adloniant clasurol yn cyfuno’r gerddoriaeth fyw orau gyda holl hwyl y panto traddodiadol i greu sioe Nadolig berffaith!
Mae panto roc a rol Clwyd yn dod yn fwy poblogaidd bob blwyddyn ac, fel erioed, argymhellir yn gryf eich bod yn archebu eich tocynnau’n fuan.
Adloniant Nadoligaidd ar ei orau!
Prisiau
7.00pm
Sioeau prynhawn 2.00pm
Oedolion: £19.00, £17.00, £15.00
Pensiynwyr a Hawlwyr: £2.00 i ffwrdd.
Plant a myfyrwyr mewn addysg llawn amser: £5.00 i ffwrdd.
Perfformiadau prîs arbennig: Dydd Gwener 20 a Dydd Sadwrn 21 Tachwedd
Oedolion £15.00 Plant £10.00
Perfformiadau Brig
Bob nos Wener a Sadwrn yn ystod gwyliau’r Nadolig.
Dim gostyngiad heblaw £5.00 i ffwrdd i blant - 16 ac iau - (dim gostyngiadau sy’n cynnwys prisiau ysgolion a phartïon ifanc)
Perfformiadau Arferol
Perfformiadau Dydd Llun i Ddydd Iau a phrynhawniau Sadwrn.
Perfformiadau wedi eu disgrifio: 17 Rhagfyr 7.00pm, 19 Rhagfyr 2.00pm a 7 Ionawr 7.00pm
Perfformiadau â Chapsiynau: 9 Rhagfyr 7.00pm a 16 Ionawr 2.00pm
Perfformiad Mewn Iaith Arwyddion: 23 Ionawr 2.00pm
Y PRISIAU TOCYN CANLYNOL AR GAEL GAN SWYDDFA DOCYNNAU YN UNIG
Ysgolion a phartïon ifanc
(16 ac iau) ag eithrio perfformiadau brig £9.00. Athrawon sy’n goruchwylio: 2 docyn am ddim am y 20 plentyn cyntaf ac 1 tocyn am ddim am pob 20 plentyn wedyn (heblaw rhwng 18 Rhagfyr 2009 a 4 Ionawr 2010 yn gynhwysol).
Rhai ag amhariad golwg a chlyw, defnyddwyr cadair olwyn, personau anabl a gosgordd
Seddi gorau sydd ar gael £12.00 am bob perfformiad.
Gostyngiadau Grŵp
Partïon o 10 neu fwy 15% oddi ar pris tocyn, heblaw am berfformiadau brig, plant, myfyrwyr, ysgolion a phartïon ifanc. Ag eithrio 20 a 21 Tachwedd ac nid yw ar gael rhwng 18 Rhagfyr 2009 a 4 Ionawr 2010 yn gynhwysol.
