Manylion y Digwyddiad

Archebu Ar-lein

Swyddfa Docynnau:
0845 330 3565

English

 

Theatr Ymweld 

INSIDE JOB | 13 i 18 Medi 2010

Theatr Anthony Hopkins

Ian Dickens Productions Ltd

Gan: Brian Clemens
Cyfarwyddwyd gan: Giles Watling

Mae’n bleser gan Ian Dickens Productions gyflwyno Inside Job gan Brian Clemens gyda chast llawn sêr sy’n cynnwys dau o eilunod y merched yn Emmerdale - Matt Healy sy’n gwneud i galon y merched i gyd guro’n gyflymach, a’r hogyn drwg, Matthew King, a bortreadir gan yr actor ffilm a theledu, Christopher Villiers, sydd wedi bod yn chwarae Grayson Sinclair am y tair blynedd diwethaf, ynghyd â Michelle Morris (Jess Haworth in The Knock).

Ar y Costa del Sol, mae gŵr sy’n arbenigo ar dorri i mewn i ddiogelloedd yn mwynhau bywyd hedonistaidd yn yr haul, nes daw Suzy drawiadol i’w fyd gyda chynnig na all ei wrthod. Ond mae rhywbeth sy’n cychwyn fel gweithred syml o ddwyn yn prysur dyfu i fod yn ddirgelwch yn ymwneud â diemwntiau, llofruddiaethau, celwydd a chelwydd dwbl.

"Mae The Mousetrap yn cyfarfod â Lock Stock mewn plot trawiadol sy’n troi a throelli fel neidr walltgof"

Tair bom. Tri llofrudd. Tri chymhelliant ... dim ond un canlyniad posibl.

Daw twyll a dichell at ei gilydd yn y stori iasoer hon gan Brian Clemens, creawdwr The Avengers a The Professionals ar y teledu.

Ceir y cynhyrchiad hon ei pherfformio yn Saesneg

Nosweithiau 7.30yh. Sioeau prynhawn Iau a Sadwrn: 2.30yp

Prisiau

£19.00, £16.00, £13.00.

Concessions: £2.00 off top 2 ticket prices (excluding Saturday evening)/Gostyngiadau: £2.00 i ffwrdd o bris y 2 docyn drytaf (ac eithrio nos Sadwrn).

Schools/students (5 or more)/Ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £9.00