LARK RISE TO CANDLEFORD | 25 i 30 Hyd 2010
Bill Kenwright
Addasiad llwyddiannus y National Theatre
Gan: Keith Dewhurst
Addasiad o gofiannau: Flora Thompson
Gyda chast llawn sêr wedi ei chyhoeddi!!! Sara Crowe, (o 'Calendar Girls' a 'Bedroom Farce' yn y West End, a'r ffilm 'Four Weddings and a Funeral'); Eric Richard (Sgt. Bob Cryer yn 'The Bill' am ugain mlynedd); Becci Gemmell (Joyce Fisher yn nrama'r BBC 'Land Girls'); Christopher Beeny ('Last of the Summer Wine', 'Upstairs, Downstairs' a Jonathan Ansell (y cyn-prif ganwr o'r grŵp X Factor, G4, sydd newydd gwbwlhau taith hynod llwyddiannus o theatrau cenedlaethol gyda chynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o 'Whistle Down the Wind').
Yn dilyn llwyddiant y gyfres deledu ar y BBC, dyma Bill Kenwright i gyflwyno adfywiad newydd, ffres o addasiad llwyfan gwreiddiol Keith Dewhurst o stori hoffus Lark Rise to Candleford. Yn seiliedig ar y llyfr cyntaf yn nhriawd Flora Thompson o nofelau lled-hunangofiannol, perfformiwyd y ddrama gynnes hon am y tro cyntaf yn y National Theatre yn Llundain yn 1978 ac fe’i henwebwyd am ddwy wobr Olivier.
Yn cael ei chyflwyno drwy lygaid ifanc Laura Timms, mae’r ddrama’n dilyn diwrnod ym mywyd y gweithwyr fferm, y crefftwyr a’r bonedd ym mhentref bychan ffuglennol Lark Rise ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n ddiwrnod cyntaf y cynhaeaf ac mae’r pentrefwyr yn dathlu gyda phleserau syml cerddoriaeth, cân a dawns, gan greu darlun teimladwy ac atgofus o Loegr sydd wedi’i hanghofio.
"Yn gwneud i chi ddyheu’n hiraethus am bethau symlach" Daily Telegraph
"Bydd y rhan fwyaf o’r gwylwyr yn mynd gartref yn bobl ddoethach a hapusach ... un o’r achlysuron theatrig prin hynny sydd wir yn llwyddo i wneud i chi deimlo’n well" The Guardian
Nosweithiau: 7.30pm, Sioe prynhawn Iau a Sadwrn: 2.30pm
Prisiau
£19.00, £16.00, £13.00.
Gostyngiadau: £2.00 i ffwrdd o bris y 2 docyn drytaf (ac eithrio nos Sadwrn).
Ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £9.00
