A CHILD'S CHRISTMAS IN WALES | 9 Rhag 2010 i 8 Ion 2011
Thursday 9 December – Saturday 8 January
Theatr Emlyn Williams
Gan: Dylan Thomas
Addaswyd a Chyfarwyddwyd gan: Tim Baker
Cynllunydd: Mark Bailey
Cyfansoddwr: Dyfan Jones
Ceir y cynhyrchiad hon ei pherfformio yn Saesneg
"Roedd pob Nadolig mor debyg ... dydw i ddim yn gallu cofio os mai deuddeg oed oeddwn i pan wnaeth hi fwrw eira am chwe diwrnod a chwe noson ynteu a oeddwn yn chwech oed pan wnaeth hi fwrw eira am ddeuddeg diwrnod a deuddeg noson."
Mae A Child's Christmas in Wales yn stori Nadolig sydd wedi dod yn rhan o’n traddodiad. Y tu allan, yn yr eira, ceir anturiaethau gyda ffrindiau – Jim, Dan a Jack, a phostmyn yn drwmlwythog o anrhegion. Mae tanllwyth o dân yn nhŷ Mrs Prothero a holl draddodiadau tymhorol y dref ar droed. Yn eu tai, mae modrybedd yn gweini port neu win panas, twrci a phwdin ar dân. Mae ewythrod llon yn eistedd wrth y tân.
Mae chwerthin, hwyl a cherddoriaeth, caneuon a charolau, a’r teulu’n uned gytûn yn y tŷ bach cynnes.
Mae atgofion ingol Dylan Thomas am Nadoligau’r gorffennol yn nhref glan môr ei ieuenctid yn crisialu holl hanfod a hud y cyfnod arbennig hwn o’r flwyddyn.
Mae A Child's Christmas in Wales yn cael ei llwyfannu gydag addasiad newydd gan Tim Baker, Cyfarwyddwr Cyswllt Clwyd Theatr Cymru, yn dilyn llwyddiant ei addasiadau diweddar o The Grapes of Wrath gan John Steinbeck a Great Expectations gan Charles Dickens, ac mae’r ddwy wedi cael eu cyhoeddi gan Josef Weinberger.
Nosweithiau: 7.45yh
Sioeau prynhawn Sadwrn: 2.45yp
Ôl-drafodaeth: 6 Ionawr
Perfformiadau wedi eu disgrifio: 18 Rhagfyr 2.45yp a 6 Ionawr 7.45yh
Perfformiad Capsiwn: 18 Rhagfyr 2.45yp
Prisiau
£15.00, Galeri £11.00.
Gostyngiadau £2.00 i ffwrdd (ac eithrio nos Sadwrn)
Perfformiadau 'Rhagolwg' a Nosweithiau Agoriadol £13.00, Y Galeri £9.00.
Gostyngiadau £2.00 i ffwrdd (ac eithrio nos Sadwrn).
Schools/students - 5 or more £9.00 (excluding Saturday evenings)
Group Discounts Parties of 10 or more 15% discount off ticket price (excluding £5.00 tickets and Saturday evenings)
Access Disabled persons and an escort £12.00 all performances.
