Manylion y Digwyddiad

Archebu Ar-lein

Swyddfa Docynnau:
0845 330 3565

English

 

Theatr Ymweld 

ILL MET BY MOONLIGHT | 23 Tach 2010

Theatr Emlyn Williams
Hijinx Theatre

Gan Charles Way

A fyddech chi’n mentro eich rhyddid... am gariad?

Mae Ill Met By Moonlight gan Charles Way yn ddrama sy’n ffefryn gan bobl o bob oed.        

"…  sgript hyfryd a medrus, stori angerddol am gariad a hud. (The Guardian 1994)

Wedi’i lleoli ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ar droad yr ugeinfed  ganrif, pan oedd ofergoeliaeth wledig yn rhemp, mae disgynydd i Puck yn crwydro’r cefn gwlad gan adael llwybr o helynt i’w ganlyn. Ef yw’r olaf o’r Bwca ac mae’n fodlon gwneud unrhyw beth er mwyn sicrhau parhad ei hil. Drwy ymyrryd, mae’n ceisio lladd y cariad sy’n tyfu rhwng dau berson unig yn y wlad. Y canlyniad yw busnesu maleisus sy’n ddoniol ac yn drasig. A fydd yn llwyddo, ynteu a fydd cariad a didwylledd yn ennill y dydd?

Wedi’i chomisynu yn 1994, ac wedi teithio am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn honno ac eto wedyn yn 2001, cafodd y ddau gynhyrchiad yma o Ill Met by Moonlight groeso eithriadol gan y gynulleidfa a’r beiriniaid fel ei gilydd.                                

7.45yh

Prisiau

£11.00, Gostyngiadau £9.00, Ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £7.00