BOUNCERS | 24 i 25 Tach 2010
Theatr Emlyn Williams
Black RAT Productions mewn cyd-weithrediad â Blackwood Miners’ Institute
Gan: John Godber
Yn serennu: Mike Doyle
Gyda: Richard Tunley, Gareth Bale a Sam Davies.
Yn cynnwys cast talentog o rai o actorion comedi gorau Cymru dan arweiniad Mike Doyle fel Lucky Eric, mae’r gomedi gyflym hon yn fersiwn llawn egni, wedi’i diweddaru’n amserol, o un o glasuron hoff John Godber.
Dewch i gyfarfod Les, Judd, Ralph a Lucky Eric, y bownsars mewn clwb nos lleol, wrth iddynt baratoi ar gyfer nos Wener brysur arall. Mae’r bechgyn yn chwilio am fachiad, y genethod yn mwynhau eu hunain a’r cwrw’n llifo’n braf. Ac yna ceir gwledd theatrig wrth i’r pedwar bownsar chwarae’r cymeriadau i gyd gyda chanlyniadau eithriadol ddoniol.
Cyfarwyddyd oedran 14+ - yn cynnwys iaith gref.
www.blackratproductions.co.uk
7.45yh
I wylio tamaid o BOUNCERS cliciwch ar y linc isod:
http://www.youtube.com/watch?v=J_KhsFT9OaM&feature=email
Prisiau
£11.00, Gostyngiadau £9.00, Ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £7.00
