SLEUTH | 17 i 22 Maw 2008
Theatr Anthony Hopkins
Bill Kenwright Ltd
Gyda Simon MacCorkindale a Michael Praed yn serennu
Gan Anthony Shaffer
Un o’r dramâu cyffro gorau erioed ar lwyfan, wedi rhedeg am gyfanswm o 12 mlynedd yn Llundain ac Efrog Newydd, gan ennill Gwobr Tony am y Ddrama Orau ac ysbrydoli’r ffilm hynod lwyddiannus gyda Laurence Olivier a Michael Caine. Ceir sawl rheswm felly dros ei llwyfannu unwaith eto.
Mae Simon MacCorkindale, sydd fwyaf adnabyddus fel y gŵr sy’n chwarae rhan Harry Harper yn Casualty ar deledu’r BBC ac sydd wedi ymddangos yn y cyfresi teledu llwyddiannus Falcon Crest a Manimal ac mewn sawl ffilm fawr, yn cynnwys Riddle of the Sands, a Michael Praed, feteran y clasuron teledu, Robin of Sherwood a Dynasty, yn serennu yn yr adfywiad gwych hwn o gampwaith Anthony Shaffer lle mae gŵr ifanc yn cyrraedd cartref hyfryd awdur dirgel enwog ac yn cael ei dynnu i mewn yn ddiarwybod iddo’i hun bron i we gymhleth o gynllwynio a goruchafiaeth, lle nad oes dim cweit fel mae’n ymddangos…
Mae’r ddrama dywyll, seicolegol hon, sy’n astudiaeth hynod o wrthdaro rhwng pobl, cenfigen a chamdrin, yn profi i fod yn llawer mwy na drama ‘pwy a wnaeth’ ac yn addo creu penbleth i’r ditectif mwyaf medrus yn ein plith!
Nosweithiau 7.30pm.
Sioe prynhawn Iau 2.00pm
Sioe prynhawn Sadwrn 2.30pm
Prisiau
£19.00, £16.00, £13.00. Gostyngiadau £2.00 i ffwrdd o bris y ddau docyn drytaf (ac eithrio nos Sadwrn).
Ysgolion/myfyrwyr (5 neu fwy) £9.00.
