Manylion y Digwyddiad

Archebu Ar-lein

Swyddfa Docynnau:
0845 330 3565

English

 

Arddangosfeydd 

YR ORIEL | 27 Gorff 2009

1 Mai – 5 Mehefin
RHAGOR O DDIRGELION CELF:
Gilly Thomas & Ivor Richards

‘Ceir cysylltiadau rhyfedd a dwys rhwng y pwnc a’r tynnwr llun, sydd hefyd yn bodoli rhwng y dychmygu anghymesur sy’n ffurfio cynnwys y gwaith. Felly, mae’r arlunydd, sydd wedi ymgolli mewn gweledigaeth benodol, yn cael ei synnu, a’i fwyellu hyd yn oed, gan weledigaeth arall gysylltiol, meteor o bosibl, fel rhywbeth dinistriol o’r byd real neu afreal. Terfir ar y gorfoledd a’r frwydr anodd o lunio gwaith celf yn ddirybudd gan memento mori twyllodrus, rhywbeth sy’n ein hatgoffa bod bywyd yn ddigon ansicr. Mae tynnu lluniau neu wneud paentiadau’n gyfrwng i archwilio, gan deimlo’r ffordd ar draws arwyneb dau ddimensiwn, ar goll mewn lledrith, gan wneud marciau sy’n weddillion taith a deithiwyd heb unrhyw uchelgais i gyrraedd ei phen draw.’ GILLY THOMAS

‘Mae cerfio a gwneud marciau mewn cerrig yn reddf sy’n filiynau o flynyddoedd oed ac wrth weithio gyda’r deunydd hynafol hwn, gyda’i rinweddau a’i elfennau cynhenid o urddas, gallaf gloddio am ystyr a chysylltiadau. Nid yw’n syndod felly fy mod yn gallu gwneud defnydd o elfennau hynafol, defodol a daear-hudol, y crefyddol, paganiaeth, y cyntefig a’r aberthol, oherwydd mae’r hen garreg yn cynrychioli’r holl bethau hyn. Tra’n chwilio am ystyr, atebion neu gwestiynau, gallaf edrych ar bosibiliadau hudolus arwyneb y llechen – o’r garw a’r hollt i’r melfed llyfn.  Mae gwrthgyferbyniad gweledol cyfryngau eraill, fel plwm, cortyn neu gŵyr, sy’n cyfyngu ac yn ffrwyno’r garreg, neu’n rhan ohoni, yn esgor ar haenau posibl pellach o ystyr. Byddaf yn ceisio gwneud i’r gwrthrychau hyn weithio fel trosiadau ar gyfer y materion dwfn i ni fodau dynol, gan obeithio cyfieithu eu negeseuon dieiriau’n ffurf gerfluniol.’ IVOR RICHARDS


19 Mehefin - 26 Awst
AGORED GOGLEDD CYMRU 2010
Mae’r arddangosfa agored flynyddol hon yn elfen bwysig iawn o raglen yr arddangosfa. Yn cael ei dangos ym mhob un o dair oriel y theatr, mae Arddangosfa Agored Gogledd Cymru’n cynnwys nifer aruthrol o weithiau gan arlunwyr proffesiynol ac amatur o bob cwr o Ogledd Cymru, gan gynnwys gwaith paentio, tynnu llun, print a chyfryngau cymysg.  Dyfernir gwobr hael i’w rhannu rhwng tri arlunydd.                               

Mae’r arddangosfa’n agored i arlunwyr o Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.  Gall yr arlunwyr sy’n dymuno cyflwyno gwaith: lawrlwytho ffurflen gais o wefan y theatr, casglu ffurflen o’r theatr neu o’r prif lyfrgelloedd rhanbarthol neu dderbyn ffurflen drwy anfon amlen gyda stamp a chyfeiriad arni i ‘Arddangosfa Agored Gogledd Cymru’, Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, CH7 1YA. Y dyddiad derbyn yw Sadwrn 12 Mehefin.

Noddir gan Gyfreithwyr Aaron a’i Bartneriaid LLP

Prisiau

Mynediad am ddim.