Beth Sydd Ymlaen
Yr Oriel
Mae’r Oriel yn arddangos casgliadau o waith gan arlunwyr sy’n enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r arddangosfeydd yn para pedair wythnos fel rheol ac yn cael eu noddi’n aml gan Gyngor y Celfyddydau, gan deithio i orielau eraill yng Nghymru hefyd.
Oriel Y Gymuned
Mae’r Oriel Gymunedol ar gyfer arlunwyr lleol, naill ai o’r ardal hon neu o rannau eraill o’r wlad. Mae’r gwaith ar werth fel rheol ac mae’r arddangosfeydd yn para pythefnos.
Oriel addysg
Mae’r Oriel Addysg (a noddir gan Toyota UK) ar gyfer gwaith gan ysgolion a cholegau lleol. Rydym yn cadw stoc o fframiau fel bod y gwaith yn cael ei fowntio a’i gyflwyno i’r un safon â’r orielau eraill.
Pob haf, mae’r theatr yn cynnal Arddangosfa Agored Gogledd Cymru, sy’n defnyddio’r tair oriel.
Ffurflen
CEIR MYNEDIAD AM DDIM I BOB UN O’R ORIELAU
